Mewnforwyr
Rydym yn cynorthwyo allforwyr Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru trwy ymchwil marchnata, deunyddiau cyhoeddusrwydd, cyllido a chyfarfodydd gyda mewnforwyr. Gallwch gael hyd i amrywiaeth o gyhoeddiadau perthnasol sy’n helpu i hyrwyddo’r cynhyrchion unigryw hyn a’u hamlbwrpasedd i siopwyr dramor trwy gyfrwng y Porth Masnach a neilltuwyd ar eich cyfer.
Taflenni Gwybodaeth
Lawrlwythwch ein taflen wybodaeth ar Allforio a chyhoeddiadau eraill sy’n anelu at gynyddu’r marchnadoedd tramor ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru trwy amlinellu’r ansawdd, blas unigryw ac amlbwrpasedd i fewnforwyr. Mae taflenni mewn ieithoedd tramor ar gael, hefyd.
Llyfrynnau
Lawrlwythwch ein llyfryn Allforio a chyhoeddiadau eraill sydd â’r nod o ddatblygu marchnadoedd tramor ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ymhellach, gan amlinellu ansawdd, blas unigryw ac amlbwrpasedd i fewnforwyr posibl. Mae fersiynau ar gael mewn ieithoedd tramor hefyd.
Mewngofnodwch i’r porth er mwyn cael hyd i ragor o daflenni gwybodaeth Allforio mewn ieithoedd eraill.
