Marciau Llawn i Gig Oen Cymru mewn Astudiaeth Wyddonol

Wrth i Ddiwrnod Diogelwch Bwyd cyntaf erioed y Cenhedloedd Unedig gael ei gofnodi ar 7 Mehefin, mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn dathlu’r achlysur trwy ddatgelu’r canlyniadau cyntaf o’i phartneriaeth gyda’r arbenigwyr ar olrheinedd gwyddonol, Oritain. Awgryma’r canlyniadau y gall gwsmeriaid fod yn hyderus iawn yn hygrededd Cig Oen Cymru, gan fod 100% o’r samplau wedi cadarnhau fod y cig wedi deillio o ffermydd yng Nghymru.
Cyhoeddodd HCC y bartneriaeth gydag Oritain yn Sioe Frenhinol y llynedd. Diolch i’r gwaith yma, mae posib gwirio’r system olrheinedd presennol trwy’r cynllun PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) gan ddefnyddio gwyddoniaeth fforensig ar unrhyw fan yn y gadwyn gyflenwi, er mwyn sicrhau olrheinedd y cig.
Dros y misoedd diwethaf casglwyd samplau o gig oen o ystod eang o leoliadau – canolfanau prosesu, cyfanwerthwyr, archfarchnadoedd, siopau cigydd, gwestai a thai bwyta – yng Nghymru a thu hwnt. Ar ôl cynnal profion yn labordai Oritain, roedd y canlyniadau’n dangos fod pob un o’r cynhyrchion a hysbysebwyd fel Cig Oen Cymru yn deillio o Gymru.
Mae technoleg Oritain yn dadansoddi elfennau hybrin ac isotopau sy’n cael eu hamsugno gan anifeiliaid o’u hamgylchedd naturiol a’r glaswellt a’r d?r a ddefnyddir ganddyn nhw, er mwyn creu ‘ôl bys tarddiad’ sydd yn gwbl Gymreig. Mae’r technegau yn uchel eu parch mewn amryw o ddiwydiannau, gan gynnwys bwyd, cotwm a chynhyrchion fferyllol, ac wedi ennill gwobr ar ddiwedd 2018 gan gymdeithas SoFHT (Society of Food Hygiene and Technology).
“Mae olrheinedd yn rhan holl bwysig o ddiogelwch bwyd ac osgoi twyll,” meddai Prif Weithredwr HCC Gwyn Howells. “Mae e hefyd yn hanfodol i’r diwydiant cig coch yng Nghymru wrth i ni hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI fel cynnyrch premiwm.”
Ychwanegodd, “Mae’n rhaid i gwsmeriaid fod yn hyderus os mai Cig Oen Cymru sydd ar y label, yna Cig Oen Cymru yw e. Daw hyn yn bwysicach bydd wrth i ni geisio sicrhau marchnadoedd newydd i’n ffermwyr yn y Dwyrain Canol ac Asia.”
“Rwy’ wrth fy modd fod y set cyntaf o samplau a astudiwyd gan Oritain yn cadarnhau fod y system olrheinedd PGI yn gryf wrth sicrhau hygrededd Cig Oen Cymru ar hyd y gadwyn gyflenwi,” meddai Gwyn. “Mae’r dechnoleg yma ar flaen y gad, gan ddangos ein bod yn cymryd olrheinedd ac enw da ein brandiau o ddifri.”
“Pan mae gan fwyd fel Cig Oen Cymru PGI enw da ledled y byd am ei safon uchel, mae gwarchod yr enw da hynny yn hollbwysig,” meddai Prif Weithredwr Oritain, Grant Cochrane. “Ni ellir ail-greu’r blas unigryw sy’n deillio o’r amgylchedd naturiol lle mae’r anifeiliaid yn cael eu magu, felly gall fod yna gymhelliad i eraill i geisio cam-ddefnyddio’r enw da yma.
“Bwriad ein partneriaeth gyda Chig Oen Cymru yw atal hynny, ac mae’r canlyniadau cyntaf yma yn dangos fod y gadwyn gyflenwi yn gryf. Yn barod mae’n cael ei werthu mewn dros 20 o wledydd ar draws y bydd, a bydd y canlyniadau yma’n rhoi sicrwydd i gwsmeriaid newydd posib wrth geisio ehangu’r farchnad yn y Dwyrain Canol ac Asia.”