Cyfle gan Elwen, Y Gogyddes Boblogaidd, i Ennill Gwobr Nodedig

Cafodd Elwen Roberts, y gogyddes boblogaidd a Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer Defnyddwyr, ei henwebu ar gyfer un o brif wobrau’r diwydiant bwyd.
Enwebwyd Elwen, sy'n cynnal arddangosiadau coginio mewn ysgolion ac ar y teledu i S4C, ar gyfer rownd derfynol Gwobrau 'Women in Meat'.
Cyhoeddir y canlyniad mewn cinio mawreddog yn y Royal Garden Hotel yn Kensington ym mis Tachwedd, yn dilyn pleidlais gyhoeddus ar-lein yn https://womeninmeatawards.com/vote/
Mae enwebiad Elwen yn cydnabod gyrfa ugain mlynedd yn y diwydiant, lle mae wedi dangos ymrwymiad mawr i addysgu'r cyhoedd, athrawon, plant a gweithwyr iechyd proffesiynol ynghylch sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, diet cytbwys a phwysigrwydd olrhain tarddiad bwyd.
Roedd Elwen i fod i weithio yn Sioe Frenhinol Cymru am y 36ain gwaith eleni, ond mae wedi torri ei garddwrn a bydd rhaid i HCC ymdopi heb ei harddangosiadau coginio unigryw.
Serch hynny, bydd tîm ymroddedig Elwen, ynghyd â chogyddion gwadd, yng nghegin HCC i gynnig samplau o Gig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a phorc i ymwelwyr.
Bydd Gareth Ward o fwyty seren-Michelin Ynys-hir yno ar ddiwrnod cyntaf y sioe ar 22 Gorffennaf, a bydd y gwesteion eraill yn cynnwys y arbenigwr ar farbeciws, Chris Roberts; y cogydd poblogaidd o Aberhonddu, Owain Hill; Simon a Maryann Wright o Wright's Food Emporium; yr ymgynghorydd bwyd Nerys Howell; aelodau o Dîm Coginio Cymru, a Katie Davies o 'Britain's Best Home Cook'.
Bydd Luke Thomas, y cogydd ifanc o Gei Connah sydd wedi gweithio yn y bwytai gorau yn Llundain yn dychwelyd i’r Sioe eleni eto.
Dywedodd Rheolwr Datblygu'r Farchnad yn HCC, Rhys Llywelyn: "Mae'n ddrwg gennym na fydd Elwen gyda ni ar gyfer y Sioe eleni. Rydym yn edrych ymlaen at ei chroesawu'n ôl yn fuan ac yn falch iawn bod ei gwaith gwych yn cael ei gydnabod gan y diwydiant.
“Rwy'n si?r y bydd llawer o'r bobl a'r sefydliadau sydd wedi elwa o arbenigedd Elwen a’i gwaith ymgysylltu yn awyddus i'w chefnogi. Mae'r pleidleisio’n dod i ben ar 5 Awst. Felly, rhaid brysio.”