Clwb Cig Oen Cymru
Does dim amheuaeth nad yw defnyddwyr yn mynd yn fwy gwybodus yngl?n â bwyd ac yn fwy soffistigedig o ran blas, a dyna pam mae Cig Oen Cymru PGI mor amlwg mewn nifer gynyddol o dai bwyta blaenllaw. Llwyddodd y clwb, a lansiwyd gan Dywysog Cymru, i ddenu diddordeb rhai o’r pen-cogyddion a thai bwyta gorau ym Mhrydain.
Sicrwydd PGI
Wrth i gwsmeriaid chwilio am sicrwydd ansawdd ar fwydlenni, rydym ni’n gweld y cyfle i hyrwyddo hanes unigryw Cig Oen Cymru PGI o’r ystafelloedd lletygarwch i’r stryd fawr. Mae ein haelodau wedi ymrwymo i weini Cig Oen Cymru PGI a chaniatáu i’w bwydlenni gael eu harchwilio’n fanwl.

Ein cefnogaeth
Mae pen-cogyddion Clwb Cig Oen Cymru yn gallu elwa ar fuddion unigryw fel gweithgareddau i godi proffil, cyhoeddusrwydd yn y wasg ar gyfer defnyddwyr a'r fasnach, cânt eu dewis i gynnal arddangosiadau coginio mewn digwyddiadau cenedlaethol, a gallant fanteisio ar gyfleoedd nawdd unigryw.

Ymunwch â’r elît
Mae ein haelodau diweddar yn cynnwys rhestr elît o ben-cogyddion, gan gynnwys dau a enillodd sêr Michelin, sef Alyn Williams o Alyn Williams at The Westbury, Llundain, a Chris Harrod, o’r Crown at Whitebrook, Sir Fynwy, ynghyd â Richard Davies o Epicure Experience, Celtic Manor, Casnewydd; David Kelman o Ellenborough Park, Cheltenham. Mae pob un wedi ymroddi i weini’r cig oen gorau sydd ar gael.

Manteision Aelodaeth
Cysylltiadau personol a rhwydweithio
Cyfle am sylw yn y wasg a’r cyfryngau masnach
Gwahoddiadau i ddigwyddiadau coginio cenedlaethol
Cyfleon am nawdd
Gwneud Cais am Aelodaeth
Fel pen-cogydd, os ydych wedi ymrwymo i ddefnyddio Cig Oen Cymru PGI ac yn dymuno gweithio gyda HCC i hyrwyddo’r cynnyrch unigryw hwn, cliciwch isod i wneud cais am aelodaeth.